Taking part

Cymryd rhan

Help everyone live longer and healthier lives and learn new information about your own health
Dewch i helpu pawb i fyw’n hirach ac yn iachach, ac i ddysgu pethau newydd am eich iechyd eich hun

If you are over 18 and live in the UK, you can join today

Os ydych chi dros 18 oed ac yn byw yn y DU, gallwch ymuno heddiw

Every adult living in the UK is eligible to join Our Future Health, including people with pre-existing health conditions. By taking part in Our Future Health, you’ll support new discoveries that will help everyone live longer and healthier lives. You’ll also have the chance to find out more about your own health and future risk of disease.

Mae pob oedolyn sy’n byw yn y DU yn gymwys i ymuno ag Our Future Health, gan gynnwys pobl sydd eisoes â chyflyrau iechyd. Drwy gymryd rhan yn Our Future Health, byddwch yn cefnogi darganfyddiadau newydd a fydd yn helpu pawb i fyw’n hirach ac yn iachach. Cewch gyfle hefyd i ddysgu mwy am eich iechyd eich hun a’ch risg o afiechyd yn y dyfodol.

Video
Fideo

Joining Our Future Health is easy

Mae’n hawdd ymuno ag Our Future Health

Watch this video to learn more about joining the programme

Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu mwy am ymuno â’r rhaglen

What’s involved in taking part and why it’s important

Beth mae cymryd rhan yn ei olygu a pham mae’n bwysig

Joining the programme consists of three main steps
I ymuno â’r rhaglen, mae tri phrif gam

1. Read and sign our consent form

Darllen a llofnodi ein ffurflen cydsyniad

You’ll be asked to read information about Our Future Health and confirm that you agree to take part. This step gives us permission to securely access health-related records about you.

5 to 15 minutes
Gofynnir i chi ddarllen gwybodaeth am Our Future Health a chadarnhau eich bod yn cytuno i gymryd rhan. Mae’r cam hwn yn rhoi caniatâd i ni fynd ati’n ddiogel i gael gafael ar gofnodion sy’n ymwneud â’ch iechyd.

5 i 15 munud

2. Fill in a questionnaire about yourself

Llenwi holiadur amdanoch chi eich hun

You’ll be asked to answer questions about your health and lifestyle. You can complete this at any time, and you don’t have to answer every question if you don’t want to.

30 to 45 minutes
Gofynnir i chi ateb cwestiynau am eich iechyd a’ch ffordd o fyGallwch lenwi hwn ar unrhyw adeg, a does dim rhaid i chi ateb bob cwestiwn os nad ydych chi’n dymuno gwneud hynny.

30 i 45 munud

3. Book an appointment at one of our clinics

Trefnu apwyntiad yn un o’n clinigau

During your appointment, we’ll ask you to provide a small sample of your blood. You’ll also have some physical measurements taken. We’ll offer you the chance the learn more about your own health, including your blood pressure and cholesterol levels.

15 to 30 minutes
Yn ystod eich apwyntiad, bydd gofyn i chi roi sampl bach o’ch gwaed. Bydd rhywfaint o’ch mesuriadau yn cael eu cymryd hefyd. Byddwn yn rhoi’r cyfle i chi ddysgu mwy am eich iechyd eich hun, gan gynnwys cael eich pwysedd gwaed a’ch lefelau colestrol.

15 i 30 munud

£10 voucher – to recognise your time and effort

Taleb £10 – i ddiolch i chi am eich amser a’ch ymdrech

After completing your questionnaire and agreeing to donate a blood sample at your appointment, you will be offered a £10 voucher.

You can spend this voucher in places like supermarkets, high street shops and online retailers.

You can also choose to donate the voucher to the Our Future Health charity.

Our voucher scheme opened in December 2023 for new participants.

Ar ôl i chi lenwi eich holiadur a chytuno i roi sampl gwaed yn eich apwyntiad, bydd taleb £10 yn cael ei chynnig i chi.

Gallwch wario’r daleb hon mewn lleoedd fel archfarchnadoedd, siopau’r stryd fawr, a siopau ar-lein.

Gallwch hefyd ddewis rhoi’r daleb yn rhodd i elusen Our Future Health.

Agorodd ein cynllun talebau i gyfranogwyr newydd ym mis Rhagfyr 2023.

More information about taking part

Rhagor o wybodaeth am gymryd rhan

What will you do with my sample? Beth fyddwch chi’n ei wneud gyda fy sampl?

Once we have collected your blood sample, it will be divided into smaller samples. We will use one of the samples to extract DNA (genetic information) and the rest of the samples will be stored for future research. For example, in the future, we may use some of your stored samples to look at cholesterol, or blood sugar levels.

Although over 99% of DNA is the same for all humans, there are lots of tiny differences in people’s DNA. These differences are called variants, and they contribute to many of the differences between people, such as a person’s blood type. Some variants are common and some are rare.

Importantly, some variants influence a person’s risk of developing different diseases.

We’ll use a technology called SNP array to look at some of the variants in your DNA.

If possible, we may also use a process called genome sequencing and other genetic technologies to look at your DNA. Genome sequencing reads and records almost all the DNA in your genome (your complete set of DNA).

Your samples and DNA will be stored for future analyses by researchers.

In the future, researchers may also use your sample to measure other parts of your blood, to see if they are linked to health and risk of disease.

Ar ôl i ni gasglu eich sampl gwaed, bydd yn cael ei rannu’n samplau llai. Byddwn yn defnyddio un sampl i echdynnu DNA (manylion genetig) a bydd gweddill y samplau yn cael eu storio ar gyfer ymchwil yn y dyfodol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn defnyddio rhai o’ch samplau sydd wedi’u storio i edrych ar lefelau colestrol neu lefelau siwgr yn y gwaed yn y dyfodol.

Er bod 99% o DNA yr un fath i bob person, mae llawer o fân wahaniaethau yn DNA pobl. Amrywiolion yw’r enw a roddir ar y gwahaniaethau hyn, ac maen nhw’n gyfrifol am lawer o’r gwahaniaethau rhwng pobl, fel eu grŵp gwaed. Mae rhai amrywiolion yn gyffredin, a rhai yn brin.

Mae’n bwysig nodi bod rhai amrywiolion yn dylanwadu ar risg rhywun o ddatblygu gwahanol glefydau.

Byddwn yn defnyddio technoleg o’r enw arae SNP i edrych ar rai o’r amrywiolion yn eich DNA.

Os yw’n bosib, efallai y byddwn yn defnyddio proses o’r enw dilyniannu genomau, a thechnolegau genetig eraill, i edrych ar eich DNA. Mae’r broses dilyniannu genomau yn darllen ac yn cofnodi’r holl DNA yn eich genom (eich set gyfan o DNA) bron â bod.

Bydd eich samplau a’ch DNA yn cael eu storio er mwyn i ymchwilwyr eu dadansoddi yn y dyfodol.

Efallai y bydd ymchwilwyr yn defnyddio eich sampl i fesur rhannau eraill o’ch gwaed yn y dyfodol, i weld a ydyn nhw’n gysylltiedig ag iechyd a’r risg o afiechyd.

Will I receive personal results from my samples and data? A fyddaf yn cael canlyniadau personol o fy samplau a’m data?

At your appointment, you may be offered results from the finger-prick blood test for cholesterol and other measurements, such as your blood pressure. If these measurements are taken, they will be for research purposes and are not intended as a personal health check.

As Our Future Health is a research programme, your information will not be used in the diagnosis or treatment of disease, and you will not automatically receive personal feedback about your samples, DNA or other data.

But in the future, we will get in touch to ask if you would like to receive personal feedback from your samples, DNA or other data. You might learn new information about your health or risk of disease from this feedback. We will always give you more information and the chance to ask questions before you make your decision, and you can say yes or no.

Yn eich apwyntiad, efallai y cewch chi ganlyniadau’r prawf gwaed colestrol a mesuriadau eraill, fel eich pwysedd gwaed. Os cymerir y mesuriadau hyn, at ddibenion ymchwil fydd hyn, nid archwiliad iechyd personol.

Gan mai rhaglen ymchwil yw Our Future Health, ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio i gael diagnosis o gyflwr nac i drin cyflwr, ac ni fyddwch yn cael adborth personol ar eich samplau, eich DNA, na data arall yn awtomatig.

Fodd bynnag, byddwn yn cysylltu â chi yn y dyfodol i ofyn a fyddech chi’n hoffi cael adborth personol ar eich samplau, eich DNA, neu ddata arall. Efallai y cewch wybodaeth newydd am eich iechyd neu’ch risg o afiechyd yn yr adborth hwn. Byddwn bob amser yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi ac yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau cyn i chi benderfynu, a gallwch gytuno neu anghytuno.

Who will do the research and how will it work? Pwy fydd yn gwneud yr ymchwil a sut fydd yn gweithio?

Some of the research will be done by researchers at Our Future Health, but most of it will be carried out by other researchers.

These researchers may be from countries around the world and could be from organisations such as universities, charities or industry.

Any researcher who applies to do research will need to go through a strict application process, where their proposals will be carefully reviewed by an Access Board. The Access Board includes scientific experts and initially, members of the public, but will later include members of the public taking part in the Our Future Health programme.

The Access Board will only approve health-related research proposals that are for the public good and come from registered researchers. Any researchers who are granted access will only be able to see de-identified data about you. This means that they will not be able to see your name, contact details or any information that will directly identify you as an individual. In addition, researchers who are granted access will also need to sign an agreement that says they will not try to re-identify any of the participants from the data they are able to see.

Bydd rhywfaint o’r ymchwil yn cael ei wneud gan ein hymchwilwyr ni yn Our Future Health, ond bydd y rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei wneud gan ymchwilwyr eraill.

Gall yr ymchwilwyr hyn fod o wledydd ym mhedwar ban byd, a gallent fod o sefydliadau fel prifysgolion, elusennau, neu ddiwydiant.

Bydd unrhyw ymchwilwyr sy’n gwneud cais i wneud ymchwil yn gorfod mynd drwy broses ymgeisio drylwyr, lle bydd eu cynigion yn cael eu hadolygu’n ofalus gan Fwrdd Mynediad. Bydd y Bwrdd Mynediad yn cynnwys arbenigwyr meddygol ac aelodau o’r cyhoedd i ddechrau. Bydd wedyn yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd sy’n cymryd rhan yn rhaglen Our Future Health.

Dim ond cynigion ymchwil iechyd sy’n dod gan ymchwilwyr cofrestredig ac sydd er lles y cyhoedd fydd y Bwrdd Mynediad yn eu cymeradwyo. Dim ond data dienw amdanoch chi fydd unrhyw ymchwilwyr y rhoddir mynediad iddynt yn gallu ei weld. Mae hyn yn golygu na fyddant yn gallu gweld eich enw, eich manylion cyswllt, nac unrhyw wybodaeth sy’n datgelu pwy ydych chi fel unigolyn. Yn ogystal â hyn, bydd ymchwilwyr y rhoddir mynediad iddynt yn gorfod llofnodi cytundeb sy’n dweud na fyddant yn ceisio adnabod unrhyw rai o’r cyfranogwyr o’r data y maent yn gallu ei weld.

Who is responsible for my data and samples? Pwy sy’n gyfrifol am fy samplau a’m data?

Our Future Health will be responsible for your data and samples and will strictly control who has access to them. In addition, any researcher who is granted access will also need to agree to protect your data. Looking after your privacy and the security of your data is very important to us.

Read more about how we protect your data

Our Future Health fydd yn gyfrifol am eich data a’ch samplau, a bydd yn rheoli pwy sy’n cael mynediad atynt yn llym. Hefyd, bydd unrhyw ymchwilwyr y rhoddir mynediad iddynt yn gorfod cytuno i ddiogelu eich data. Mae gofalu am eich preifatrwydd a diogelwch eich data yn bwysig iawn i ni.

Darllen mwy am sut rydym yn diogelu eich data

What will happen to the findings from the research? Beth fydd yn digwydd i ganfyddiadau’r ymchwil?

Discoveries made from Our Future Health will be published in scientific papers and made available online. Your identity and any personal details will be kept confidential.

You should be aware that it will take several years for discoveries to emerge from the research programme.

Any researchers doing research with Our Future Health may profit from discoveries they make.

You can choose to receive regular updates to keep you informed about our progress and the discoveries arising from Our Future Health.

Bydd darganfyddiadau Our Future Health yn cael eu cyhoeddi mewn papurau gwyddonol a byddant ar gael ar-lein. Bydd eich manylion adnabod a’ch gwybodaeth bersonol yn cael eu cadw’n gyfrinachol.

Sylwch y bydd yn cymryd sawl blwyddyn i ddarganfyddiadau ddeillio o’r rhaglen ymchwil.

Gall unrhyw ymchwilwyr sy’n gwneud gwaith ymchwil gydag Our Future Health elwa o’u darganfyddiadau.

Gallwch ddewis cael negeseuon rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd a’r darganfyddiadau sy’n deillio o Our Future Health.

Taking part in Our Future Health is voluntary

Dewis gwirfoddol yw cymryd rhan yn Our Future Health

After you have signed up, you have full control over whether you’d like to continue being a part of the programme. You may withdraw at any time.

Ar ôl i chi gofrestru, mae gennych chi reolaeth lawn dros barhau i fod yn rhan o’r rhaglen neu beidio. Gallwch dynnu’n ôl ar unrhyw adeg.

“I want to help people like me in the future”

“Rydw i eisiau helpu pobl fel fi yn y dyfodol”

As part of our Volunteer Voices series, Our Future Health participant Renuka Baldwin speaks about why she’s motivated to help change the lack of diversity in health research.

Fel rhan o’n cyfres Geiriau’r Gwirfoddolwyr, mae Renuka Baldwin, un o gyfranogwyr Our Future Health, yn siarad am yr hyn sydd wedi ei sbarduno hi i helpu i newid y diffyg amrywiaeth mewn ymchwil iechyd.

Watch our videos to learn more

Gwyliwch ein fideos i ddysgu mwy

What are the benefits and risks of taking part?

Beth yw’r manteision a’r risgiau cysylltiedig â chymryd rhan?

How will you protect my information and privacy?

Sut byddwch chi’n diogelu fy ngwybodaeth a’m preifatrwydd?

More about joining us

Rhagor o wybodaeth am ymuno â ni

  • How can I leave the programme?

    You can withdraw from Our Future Health, or reduce your involvement, at any time. If you would like to stay in the programme but do not want to hear from us you can change your contact preferences.

  • Invitation letters from NHS England

    We are working with the NHS to send people letters inviting them to join Our Future Health. If you don’t want to receive an invitation letter from the NHS you can opt out.

  • How can I leave the programme?

    You can withdraw from Our Future Health, or reduce your involvement, at any time. If you would like to stay in the programme but do not want to hear from us you can change your contact preferences.

Key documents

Dogfennau pwysig

Participant Information Sheet

VersionFersiwn 3.5 | June 2024 | PDF: 1 MB

Consent Form

VersionFersiwn 3.5 | June 2024 | PDF: 365 KB

Taflen Wybodaeth i Gyfranogwyr

VersionFersiwn 3.5 | Mehefin 2024 | PDF: 2 MB

Ffurflen gydsynio

VersionFersiwn 3.5 | Mehefin 2024 | PDF: 294 KB

“Joining Our Future Health is like leaving your body to science – while you’re still alive”

“Mae ymuno ag Our Future Health fel gadael eich corff i wyddoniaeth – tra ydych chi’n dal yn fyw”

Our Future Health volunteer Paul Hooley reveals why his mother and son were an important factor in his decision to join our programme.

Mae Paul Hooley, un o wirfoddolwyr Our Future Health, yn datgelu pam oedd ei fam a’i fab yn rhan bwysig o’i benderfyniad i ymuno â’n rhaglen ni.